Wyt ti'n Gwybod? Mêl i frecwast

SKUWTGMIF
ISBN9781783901210
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Ydych chi'n mwynhau mêl i frecwast? Mae Nima yn mwynhau mêl ac yn mynd gyda'i mam i ddysgu beth yw'r broses o greu mêl. Oeddech chi'n gwybod bod tua 50000 o wenyn yn byw ym mhob cwch gwenyn? Mae'n rhaid i wenyn ymweld â dwy filiwn o flodau i wneud un pot o fêl. Dyna dipyn o flodau!

Ewch ati i wahodd gwenynwr i mewn i'r dosbarth er mwyn trafod y broses yn fanylach gyda'r dysgwyr a gweld y peiriannau sydd angen eu defnyddio er mwyn cael y mêl perffaith.

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.