Wyt ti'n gwybod? Llyfr teithio Noa

SKUWTGLlTN
ISBN9781783901203
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Sawl ffordd gwahanol o deithio gallwch chi feddwl amdanyn nhw? Beth yw eich hoff ffordd o deithio? Car, awyren, bws, beic? Yn y llyfr hwn, cewch ddysgu am y ffyrdd gwahanol o deithio mae Noa wedi eu gweld ar draws y byd! Tybed ydych chi wedi gweld rhai o'r cerbydau hyn o'r blaen?

Dyma lyfr arbennig i'w ddefnyddio wrth i chi ddathlu Diwrnod Twristiaeth Cenedlaethol ar 7 Mai yn flynyddol. Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.