Wyt ti'n Gwybod? Dyddiau da

SKUWTGDD
ISBN9781783901180
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae hi'n aeaf, haf, gwanwyn a hydref ar amrywiol adegau o'r flwyddyn mewn gwahanol ardaloedd yn y byd. Tybed allwch chi ddyfalu pryd mae Seland Newydd yn cael tymor yr haf? A phryd mae China yn mwynhau tymor yr hydref? Yn y llyfr hwn, cewch ddysgu mwy am y tymhorau ar draws y byd a thraddodiadau gwahanol mae gwledydd yn eu dilyn yn ystod y flwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys ioga yn Times Square, Gŵyl y Gwyntoedd ar Draeth Bondi a gŵyl flodau yn Awstralia.

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.