Wyt ti'n gwybod? Dewch i weld

SKUWTGDIW
ISBN9781783901173
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Dewch i weld siopau ac adeiladau sydd â siapiau unigryw iawn. Ydych chi wedi gweld rhywbeth fel hyn o'r blaen? Tybed a oes adeilad tebyg yng Nghymru yn rhywle? Beth am ymchwilio i weld? Trafodwch fel dosbarth beth yw hoff adeilad eich dysgwyr. Pa un fydd fwyaf poblogaidd, tybed? Petaech chi'n adeiladwr, pa siâp adeilad fyddech chi'n ei adeiladu?

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.