Wyt ti'n gwybod? Deinosoriaid
| SKU | WTGD |
|---|---|
| ISBN | 9781783901166 |
| Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Oeddech chi'n gwybod ei bod hi'n Ddiwrnod y Deinosor ar 17 Mai a 1 Mehefin yn flynyddol? Dyma'r llyfr perffaith fel sbardun i'r diwrnod! Tybed ydy'r plant yn gallu enwi rhai deinosoriaid cyn darllen y llyfr? Defnyddiwch adnodd yn yr ysgol i fesur maint y deinasoriaid gwahanol er mwyn i'r plant eu dychmygu'n weledol. Pa un yw'r mwyaf a'r lleiaf? Dyma gyfle gwych i atgyfnerthu sgiliau rhifedd y dysgwyr.
Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

