Wyt ti'n Gwybod? Deinosoriaid di-ri

SKUWTGDDR
ISBN9781783901159
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Oeddech chi'n gwybod ei bod hi'n Ddiwrnod y Deinosor ar 17 Mai ac 1 Mehefin yn flynyddol? Dyma'r llyfr perffaith fel sbardun i'r diwrnod! Tybed ydy'r plant yn gallu enwi rhai deinosoriaid cyn darllen y llyfr? Dyma gyfle gwych i atgyfnerthu sgiliau rhifedd y dysgwyr wrth iddynt ddysgu pa ddeinosor yw'r trymaf, talaf, lleiaf, cyflymaf a mwyaf araf.

Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol. 

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)210 x 150 x 5