Wyt ti'n Gwybod? Dannedd
SKU | WTGDNDd |
---|---|
ISBN | 9781783901142 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ydych chi'n edrych ar ôl eich dannedd ac yn eu golchi ddwywaith y dydd? Cyfrwch sawl dant sydd gyda chi. Beth am greu tabl i ddangos sawl dant sydd gan blant ac anifeiliaid gwahanol? Dyma gyfle gwych i atgyfnerthu sgiliau rhifedd y dysgwyr! Defnyddiwch glorian i ddangos beth yw 3 chilogram - sef pwysau dant eliffant!
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

