Wyt ti'n gwybod? Amryliw

SKUWTGA
ISBN9781783901098
Pwysau80g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Pa liw ydy'r blodau yn eich gardd? Pa liw yw eich anifail anwes? Mae lliwiau'n dod â'r byd yn fyw . Ydych chi wedi mentro i greu eich paent eich hun? Pan fyddwch chi'n meddwl am y lliw coch, beth sy'n dod i'ch meddwl chi? Meddyliwch am rai anifeiliaid sy'n guddliw, ysgrifennwch restr ac edrychwch yn y llyfr am enghreifftiau.

Ewch am dro i'ch gardd neu i'ch parc lleol i weld pa liwiau sydd i'w gweld. Mae'r llyfr yma'n cyflwyno amryw o liwiau ac yn dangos ble mae nhw'n ymddangos ar y ddaear.

 Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.