Wyt ti'n gwybod? Adeiladau diddorol Cymru
SKU | WTGADC |
---|---|
ISBN | 9781783901081 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Pa adeiladau diddordol ydych chi wedi eu gweld yng Nghymru? Ydy eich dysgwyr yn gallu enwi ambell adeilad enwog? Gallwch ddysgu mwy am leoliadau'r adeiladau amrywiol yma yn y llyfr hwn! Beth am fynd ati i ymchwilio i rai o'r adeiladau hyn ymhellach? Neu beth am ehangu sgiliau celf a chrefft y dysgwyr drwy ail-greu rhai o'r adeiladau gan ddefnyddio deunyddiau amrywiol?
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol.

