Wyt ti'n gwybod? Adar bach
SKU | WTGAB |
---|---|
ISBN | 9781783901074 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?'
Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer diwedd Cam Cynnydd 1 a Cham Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Yn ogystal, mae'r llyfrau addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod. Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol. Tybed ble mae'r adar yn byw? Sawl cyw bach sydd yn y nyth? Ble mae'r adar yn hoffi cael hwyl? Dewch o hyd i'r atebion yn y llyfr hwn!
Ydych chi'n chwilio am lyfr i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol yr Adar ar 5 Ionawr? Dyma'r llyfr i chi! Cliciwch yma i fynd i'r Digwyddiadur ar ein gwefan, sy'n nodi llu o ddigwyddiadau blynyddol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a syniadau am lyfrau ac adnoddau i gyd-fynd â'r themâu hyn er mwyn cyfoethogi'r dysgu.

