Wyt ti'n gwybod? Pecyn 2

SKUWTGP2
ISBN9781783901067
Pwysau1150g
Pris rheolaidd £29.99
Pris rheolaidd £40.00 Pris arbennig £29.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Anogwch eich dysgwyr i chwilota am ffeithiau diddorol yn y gyfres addysgiadol hon, 'Wyt ti'n Gwybod?' Mae'r llyfrau'n addas ar gyfer Cam Cynnydd 2. Eu nod yw ehangu gwybodaeth gan gryfhau sgiliau darllen dysgwyr mewn ffordd naturiol a hwyliog. Mae'r llyfrau hefyd yn addas i ddatblygu sgiliau llafar a thrafod y dysgwyr.

Gallwch ddefnyddio'r llyfrau fel sbardun yn y dosbarth neu ar gyfer tasg grŵp, neu eu defnyddio yn y cartref i addysgu mwy am thema benodol. Mae'r pecyn cyflawn yn cynnwys 15 llyfr, sef 5 llyfr ar lefel syml, 5 ar lefel ganolig, a 5 ar lefel estynnol. Mae amryw o destunau cyffrous yn cael eu cynnwys yn y gyfres hon a fydd yn adnodd gwerthfawr wrth i chi archwilio pob math o themâu gwahanol gyda'ch dosbarth. 

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)210 x 148 x 45