Dau Wyneb

SKUDW-DW
ISBN9781783900831
Pwysau140g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae'r we yn rhoi'r cyfle i ni wneud y gorau o'n hunain - hunluniadau del, sylwadau clyfar a miloedd o ffrindiau. Ond beth yw perthynas y we gyda bywyd go iawn? A ydy pawb yn dweud celwyddau ar y we, a beth sy'n digwydd pan fo celwydd golau'n troi'n dwyll peryglus?

Dyma ddrama newydd amserol sydd wedi ei chyhoeddi yn arbennig ar gyfer disgyblion sy'n astudio Drama TGAU. Mae'r ddrama wedi ei chynnwys fel drama destun ar faes llafur newydd Drama TGAU CBAC o fis Medi 2016 ymlaen. Bydd pecyn adnoddau i athrawon ar gael o wefan Hwb - Dysgu Cymru Llywodraeth Cymru o fis Medi 2016 ymlaen.

Mae hi'n ddrama amserol iawn sy'n ymdrin â chyfeillgarwch pobl â'i gilydd ar y we, a'r platfform y mae gwefanau cymdeithasol yn ei roi i bobl i gyfathrebu â'n gilydd mewn dulliau amrywiol.