Ditectif Geiriau 1
SKU | DG1_DG1 |
---|---|
ISBN | 9781783900749 |
Pwysau | 270g |
Pris rheolaidd
£4.99
Pris rheolaidd
£4.99
Pris arbennig
£4.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Helpwch eich dysgwyr i ddod yn dditectifs iaith gyda'r gyfres ddifyr ac addysgiadol hon, Ditectif Geiriau.
Bydd y llyfr hwn yn helpu i ddatblygu galluoedd darllen a deall dysgwyr ar gamau cynnydd 2 a 3. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ymarferion ffeithiol a dychmygus. Ategir yr ymarferion hyn gan ddetholiad o weithgareddau rhyngweithiol ar-lein sydd wedi’u paratoi i gefnogi a gwella dysgu. Hwb
Darparu cyfleoedd i ehangu sgiliau iaith a geirfa, yn ogystal â datblygu gallu darllen, yw prif nodau’r teitl a’r gyfres hon. Serch hynny, mae digonedd o gyfleoedd eraill yma hefyd i ddatblygu sgiliau llafaredd, rhifedd a rhesymu. Mae’r gweithgareddau'n cloi gyda chwestiynau sydd wedi'u hanelu'n benodol at ehangu'r dysgu y tu hwnt i gwmpas y gweithgaredd, dyma’r cwestiwn trafod neu ysgrifennu estynedig sy’n rhoi cyfle i’r dysgwyr resymu ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau ehangach y dysgwyr.
Yn llawn gweithgareddau difyr sy’n tynnu ar gyd-destunau diddorol a chyfarwydd, mae’r llyfr hwn yn datblygu gallu’r dysgwyr i ddod o hyd i’r atebion priodol a chywir. Mae amrywiaeth mewn thema a chyd-destun yn galluogi'r dysgwr i ymgymryd ag ystod o weithgareddau sy'n ysgogol yn ogystal ag yn addysgol. Mae rhai o’r pynciau a drafodir yn Ditectif Geiriau 1 yn cynnwys:
• Ci bach newydd
• Parti Ceri
• Y trip i Stadiwm y Mileniwm
• Pen-blwydd Mam
• Poster gymnasteg
• Nyrs anifeiliaid
• Y gala nofio
• Fy nheulu i a fi
Mae cynnwys y llyfr hwn, a phob llyfr yn y gyfres wedi'u paratoi'n benodol gyda hyblygrwydd defnydd mewn golwg. Mae gweithio trwy'r llyfr mewn trefn yn un opsiwn, ond nid yw hyn yn gwbl angenrheidiol. Yn ogystal, tra bod y llyfr yn gydymaith ardderchog ac yn gymorth dysgu ar gyfer gwersi Cymraeg, mae hefyd yn gwbl addas i'w ddefnyddio yn y cartref. Nid oes rhaid cyflwyno gweithgaredd cyfan ar yr un pryd i'r dysgwr. Gellid defnyddio un testun dros gyfnod o amser, gan dynnu sylw at wahanol nodweddion yn y testun wrth baratoi ac yna, roi adborth wedi i'r dysgwyr gwblhau'r dasg.
Pan fydd dysgwyr wedi cwblhau'r llyfr cyntaf hwn, mae'r gyfres yn parhau gyda llyfrau 2, 3 a 4, wedi eu graddoli i ddarparu dilyniant a chynnydd yn yr her i'r dysgwyr.
