Mêts Maesllan: Eliffantod

SKUMM45
ISBN9781783900510
Pwysau79g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Ar Ddiwrnod Eliffantod y Byd ar y 12fed o Awst, defnyddiwch y llyfr yma fel sbardun i'ch gwaith ymchwil ac fel cyfle i ddysgu mwy am yr anifail unigryw ac arbennig hwn. Mae'r llyfr yma'n cynnig syniadau am weithgareddau rhifedd a llythrennedd i ehangu'r dysgu. Mae yna wledd o ffeithiau amrywiol yn y llyfr a all sbarduno gwaith ymchwil ehangach fel grŵp neu'n unigol. Oeddech chi'n gwybod bod eliffant yn yfed rhwng 135 a 230 litr o ddŵr bob dydd? Dim ond am ddwy awr y dydd mae eliffantod yn cysgu ... a fyddech chi'n gallu gwneud hynny bob nos?

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)208 x 147 x 3
Adnoddau Cefnogol