Mêts Maesllan: Ailgylchu
SKU | MM42 |
---|---|
ISBN | 9781783900503 |
Pwysau | 69g |
Pris rheolaidd
£2.99
Pris rheolaidd
£2.99
Pris arbennig
£2.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Cyngor Eco Ysgol Maesllan yn gwneud gwaith arbennig yn yr ysgol. Drwy lynu at reolau'r Cyngor Eco yn fanwl maen nhw'n llwyddo i ennill baner werdd Eco-ysgolion. Dyma esiampl berffaith i'w dilyn gyda'ch dysgwyr. Ewch ati i ddefnyddio'r llyfr yma i ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd ar y 5ed o Fehefin a dathlu mis Gorffennaf di-blastig. Beth am fynd ati i drio dilyn rhai o reolau'r Cyngor? Dechreuwch drwy greu posteri i hyrwyddo unrhyw newidiadau o gwmpas yr ysgol.
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).
Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

