Mêts Maesllan: Dai yn mynd i'r ysgol
SKU | MM41 |
---|---|
ISBN | 9781783900473 |
Pwysau | 79g |
Pris rheolaidd
£2.99
Pris rheolaidd
£2.99
Pris arbennig
£2.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Dai yn ymladdwr tân ac mae ganddo dipyn i ddysgu'r plant yn Ysgol Maesllan. Nod y sesiwn yw dysgu sut i gadw'n ddiogel, ac er mwyn gwneud hynny rhaid deall sut i ofalu am larwm tân, sut i ddianc a sut i ffonio 999. Darllenwch y llyfr yma gyda'ch dysgwyr i ddysgu'r camau pwysig. Ewch ati i greu poster er mwyn cofnodi'r pwyntiau pwysig yma. Beth am wahodd ymladdwr tân lleol i mewn i'ch ysgol chi?
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).
Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

