Mêts Maesllan: Anifeiliaid anhygoel

SKUMM35
ISBN9781783900466
Pwysau70g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae Clwb Natur Ysgol Maesllan yn trefnu cwis, ac mae'n bwysig fod y Mêts yn paratoi amdano. Ewch i'r llyfrgell gyda nhw i ddysgu mwy am anifeiliaid anhygoel y byd! Oeddech chi'n gwybod bod ystlumod bob amser yn troi i'r chwith wrth fynd allan o'r ogof? Oeddech chi'n gwybod bod gan wartheg bedair stumog? Dyma lyfr addas i'w ddefnyddio fel sbardun ar gyfer Diwrnod Anifeiliaid y Byd ar y 4ydd o Hydref yn flynyddol.

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Gwybodaeth ychwanegol

Adnoddau Cefnogol