Mêts Maesllan: Bob bendigedig

SKUMM33
ISBN9781783900459
Pwysau69g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae Bob a Mim yn cael tipyn o hwyl yn chwarae pêl yn yr ardd. Ond tybed beth ddigwyddodd wedyn? Mae Bob yn gi gwerthfawr dros ben ac yn glyfar! Darllenwch fwy i weld beth mae'n ei wneud a beth yw'r rheswm mae'n derbyn medal arian arbennig. Dyma lyfr hyfryd i'w ddefnyddio ar Ddiwrnod Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes ar yr 11eg o Ebrill, wrth ddangos y berthynas rhwng Bob a Mim.

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Gwybodaeth ychwanegol

Adnoddau Cefnogol