Mêts Maesllan: Pyped Sam
| SKU | MM34 |
|---|---|
| ISBN | 9781783900398 |
| Pwysau | 69g |
Pris rheolaidd
£2.99
Pris rheolaidd
£2.99
Pris arbennig
£2.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Sam wrth ei bodd gyda chelf a chrefft ac yn cael gwledd i'r llygad wrth ymweld ag ardal Celf a Chrefft yr Eisteddfod. Mae Sam yn cael ysbrydoliaeth yn yr Eisteddfod ac eisiau mynd ati i greu pyped. Dilynwch y camau yn y llyfr i greu eich pyped eich hun. Beth am fynd ati i greu sioe bypedau ar ôl i chi greu sawl cymeriad gwahanol?
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).
Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

