Mêts Maesllan: Mae garddio'n grêt

SKUMM23
ISBN9781783900367
Pwysau69g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae'r Mêts yn mwynhau mynychu Clwb Garddio Ysgol Maesllan, yn enwedig gan fod tad Mim yn dod i'w helpu. Ydy eich dysgwyr chi'n gwybod beth sydd angen ei wneud er mwyn paratoi'r ardd i blannu llysiau a ffrwythau? Darllenwch y llyfr yma i ddysgu'r camau pwysig. Beth am fynd ati i dyfu llysiau a'u gwerthu yn eich ysgol chi? Defnyddiwch y llyfr yma wrth i chi ddathlu Mis Garddio Cenedlaethol yn ystod mis Ebrill.

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Gwybodaeth ychwanegol

Adnoddau Cefnogol