Mêts Maesllan: Ci pwy?
SKU | MM26 |
---|---|
ISBN | 9781783900312 |
Pwysau | 79g |
Pris rheolaidd
£2.99
Pris rheolaidd
£2.99
Pris arbennig
£2.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes ar yr 11eg o Ebrill, neu ar ddiwrnod Anifeiliaid y Byd ar y 4ydd o Hydref, beth am droi at y llyfr hwn fel sbardun i ddechrau'r diwrnod? Mae'r ci bach wedi cael tri enw, sef Ben, Mot a Bob! Tybed pam? Beth sy'n bod ar y ci bach? Darllenwch y llyfr yma i ddeall mwy am daith y ci bach a gweld sut mae e wedi derbyn tri enw gwahanol.
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).
Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

