Mêts Maesllan: Picnic
SKU | MM12 |
---|---|
ISBN | 9781783900282 |
Pwysau | 56g |
Dyma'r ail lyfr yn y gyfres Mêts Maesllan. Yn y stori hon mae'r mêts yn cael picnic yn y parc. Cewch gyfle i ddarganfod hoff fwyd pob un ohonynt.
Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonell Eirfaol' (Hughes, 1978).