Mêts Maesllan: Map Maesllan
SKU | MM11 |
---|---|
ISBN | 9781783900244 |
Pwysau | 79g |
Dyma'r llyfr cyntaf yn y gyfres Mêts Maesllan. Amlinelliad o bentref Maesllan sydd yma. Mae map ar bob yn ail dudalen er mwyn darganfod y prif leoliadau sy'n mddangos yn y gyfres.
Mae'r gyfres Mêts Maesllan yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.
Mae Map Maesllan yn rhan o'r gyfres Mêts Maesllan. Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonell Eirfaol' (Hughes, 1978).