Y pry bach (cam 3)
SKU | DCHD-3-YPB |
---|---|
ISBN | 9781783904624 |
Pwysau | 105g |
Wyt ti wedi sylwi ar bryfed bach ein byd? Weithiau fe weli di rai yn y tŷ. Ond os ei di i’r ardd neu i ganol byd natur, fe sylwi di ar lawer iawn ohonyn nhw. Maen nhw’n brysur yn gwneud eu gwaith, ac mae gyda nhw ran bwysig i’w chwarae yn ein byd. Tyrd i ddysgu pam bod pob un pry bach yn bwysig.
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 3 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.