Mêts Maesllan 2: Cynhesu byd-eang

SKUMM2-CB
ISBN9781783904099
Pwysau123g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae tasg gwaith cartref gan Sam i baratoi cyflwyniad ar newid hinsawdd. Trwy gyfrwng cyflwyniad Sam cawn ddysgu amrywiaeth o ffeithiau am gynhesu byd-eang a sut gallwn ni leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd yn ein bywydau bob dydd.

Mae'r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae'r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2-3 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol, a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Fel y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau - Mim, Ben, Sam, a Wil (a Bob y ci) - sy'n byw ym mhentref Maesllan, ac sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl. 

Mae'r llyfrau yn fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig, https://pth.cymru/adnoddau-mm2 ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir. 

Er mwyn cynnig parhad, ac estyniad ar y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Cychwynna'r gyfres hon ar lefel 2, a chyflwynir teitlau ar lefel 5 am y tro cyntaf. 


Gwybodaeth ychwanegol

Adnoddau Cefnogol