Tric a Chlic Cam 3 - Set o Gardiau A5 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)

SKUTACEM3C
ISBN9781783903719
Pwysau2640g
Pris rheolaidd £123.00
Pris rheolaidd £123.00 Pris arbennig £123.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Y pecyn yma'n cynnwys:

  • 8x pecynnau o gardiau A5


Mae plant mewn ysgolion lle nad yw'r Cymraeg yn iaith gyntaf yn gweithredu rhaglen ffoneg synthetig, yn barod, trwy gyfrwng y Saesneg. Cynllun yw sy'n dilyn strwythur pendant mewn ffordd systematig, cyflym a chyffrous.

Yn sgîl hyn, daw'r plant i adnabod sain a ffurf llythrennau gan symud gam ymhellach i ddysgu strategaethau cyfuno i ddarllen a rhannu geiriau wrth sillafu. Oherwydd bod eu strategaethau darllen cynnar yn gryf yn y famiaith, mae'n broses naturiol i adeiladu ar eu gwybodaeth gan gyflwyno cynllun, sy'n dilyn yr un broses ond yn yr iaith Gymraeg. Wrth ddefnyddio eu gwybodaeth flaenorol fe ddaw'r plant i ddarllen a sillafu yn y Gymraeg wrth ddefnyddio cynllun newydd 'Tric a Chlic'.

Y cwestiwn sy'n codi yn dilyn y broses o ddarllen yw: 'Ydy'r plant yn deall yr hyn a ddarllenir?' Mewn ymateb i'r cwestiwn lluniwyd cyfres o gwestiynau dwyieithog, wedi'u graddoli, er budd yr athrawon, gan annog y plant i bori drwy'r cliwiau yn y llyfr. Hefyd ychwanegwyd gemau addas a chaneuon pwrpasol i atgyfnerthu yr hyn a addysgwyd. Bydd ap Tric a Chlic o fudd, eto i atgyfnerthu mewn ffordd gyffrous gan ddefnyddio technoleg fodern.

 

Tric a Chlic

  • Adeiladu ar wybodaeth y plant.
  • Wedi ei dreialu mewn ysgolion.
  • Yn hwyl gan ddefnyddio'r synhwyrau.
  • Yn adnodd parod i'w ddefnyddio.
  • Annog plant i siarad, darllen, trafod, sillafu ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg.