Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)
SKU | TACEM2 |
---|---|
ISBN | 9781783902354 |
Pwysau | 3820g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae plant mewn ysgolion lle nad yw'r Cymraeg yn iaith gyntaf yn gweithredu rhaglen ffoneg synthetig, yn barod, trwy gyfrwng y Saesneg. Cynllun yw sy'n dilyn strwythur pendant mewn ffordd systematig, cyflym a chyffrous.
Yn sgîl hyn, daw'r plant i adnabod sain a ffurf llythrennau gan symud gam ymhellach i ddysgu strategaethau cyfuno i ddarllen a rhannu geiriau wrth sillafu. Oherwydd bod eu strategaethau darllen cynnar yn gryf yn y famiaith, mae'n broses naturiol i adeiladu ar eu gwybodaeth gan gyflwyno cynllun, sy'n dilyn yr un broses ond yn yr iaith Gymraeg. Wrth ddefnyddio eu gwybodaeth flaenorol fe ddaw'r plant i ddarllen a sillafu yn y Gymraeg wrth ddefnyddio cynllun newydd 'Tric a Chlic'.
Y cwestiwn sy'n codi yn dilyn y broses o ddarllen yw: 'Ydy'r plant yn deall yr hyn a ddarllenir?' Mewn ymateb i'r cwestiwn lluniwyd cyfres o gwestiynau dwyieithog, wedi'u graddoli, er budd yr athrawon, gan annog y plant i bori drwy'r cliwiau yn y llyfr. Hefyd ychwanegwyd gemau addas a chaneuon pwrpasol i atgyfnerthu yr hyn a addysgwyd. Bydd ap Tric a Chlic o fudd, eto i atgyfnerthu mewn ffordd gyffrous gan ddefnyddio technoleg fodern.
Tric a Chlic:
- Adeiladu ar wybodaeth y plant.
- Wedi ei dreialu mewn ysgolion.
- Yn hwyl gan ddefnyddio'r synhwyrau.
- Yn adnodd parod i'w ddefnyddio.
- Annog plant i siarad, darllen, trafod, sillafu ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y pecyn yma'n cynnwys:
- 7 llyfrau - 6 o bob un
- 78 cardiau A5
- 20 stribedi darllen A4 i'w dorri
- 46 cardiau adolygu A5 o Gam 1
- 11 A4 cardiau gêm
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/TACEM-cam2_05f93f88-cbf9-406d-8818-c3fded520f4b.jpg?v=1703162217&width=1445)
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/TACEM-CAM2-llyfrau_954b85b9-4c99-4668-b985-1b7b25b7a276.jpg?v=1703162217&width=1445)
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/TACEM-C-2_4b2769cd-5ef1-4a60-a611-74a4e1842346.jpg?v=1703162217&width=1445)
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/TAC-C-ADOLYGU_b56092aa-f664-4b42-8c52-c52088970d11.jpg?v=1703162217&width=1445)
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/TACEMSD2_5c1b54fa-1b44-4ee3-8bec-a5c6e0a17291.jpg?v=1703162217&width=1445)
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/gemau2_d993bedf-7cb5-45dc-a24e-058137d73a7b.jpg?v=1703162217&width=1445)
![Tric a Chlic Cam 2 (fersiwn ysgolion cyfrwng Saesneg)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/TACEM-CAM23-DIGIDOL_bb84cb0f-deec-400a-a3bb-bc78622eb9c6.jpg?v=1703162217&width=1445)