Maes Awyr
SKU | AAYDMA |
---|---|
ISBN | 9781783902200 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae mam Betsan, Betsan, Roco, a Zee yn edrych ymlaen at fynd ar wyliau, ond tybed i le? Ydych chi wedi bod i faes awyr o'r blaen? Darllenwch y llyfr yma i ddysgu am y broses o hedfan i wlad arall. Beth ydych chi'n hoffi gwneud pan fyddwch chi'n ymweld â gwlad newydd? Mae'n ddiwrnod Twristiaeth Genedlaethol ar y 7fed o Fai ac yn ddiwrnod Rhyngwladol Trafnidiaeth Gyhoeddus ar y 10fed o Dachwedd. Ewch i ymchwilio mewn i ffyrdd gwahanol ecogyfeillgar o deithio ar hyd a lled y wlad a beth yw'r pethau gorau i wneud mewn gwledydd penodol.
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan Digwyddiadur sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sydd gyda ni i gyd-fynd gyda'r thema i gyfoethogi'r dysgu.
Mae Maes Awyr yn rhan o gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

