Darllen y Dref
SKU | AAYDDyD |
---|---|
ISBN | 9781783902194 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Allwch chi ddod o hyd i lythrennau heb eiriau yn eich tref chi? Dewch i ddarllen beth mae Roco a Zee wedi llwyddo darganfod! Mae'n rhaid edrych yn fanwl, gyda llygaid craff ond mae'r ateb yn glir ar ôl ymchwilio ychydig! Beth am fynd a thaflen waith Rooc a Zee o gwmpas eich tref chi i weld os allwch chi ddod o hyd i'r llythrennau ar y daflen? Allwch chi ddod o hyd i unrhyw lythrennau ychwanegol?
Mae 'Darllen y Dref' yn rhan o gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref . Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

