Mêts Maesllan: Llyfr Cyflwyniadol

SKUMMLR
ISBN9781783900237
Pwysau10g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Dyma lyfr rhagarweiniol i gyflwyno'r gyfres Mêts Maesllan. Mae'r gyfres a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau, sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys llyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2, 3 a 4 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol ac ar batrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Mae'r llyfrau'n fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gweithgareddau ar Hwb ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.