• Mêts Maesllan 2: Cyfres Gyflawn

Mae'r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae'r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2-3 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r 'Ffynhonnell Eirfaol' (Hughes, 1978).

Fel y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau - Mim, Ben, Sam, a Wil (a Bob y ci) - sy'n byw ym mhentref Maesllan, ac sydd nawr yn 11 a 12 oed. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.

Mae'r llyfrau yn fyr i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig, https://pth.cymru/adnoddau-mm2 ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir.

Er mwyn cynnig parhad, ac estyniad ar y gyfres gyntaf, mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Cychwynna'r gyfres hon ar lefel 2, a chyflwynir teitlau ar lefel 5 am y tro cyntaf.


Gwybodaeth
Awdur Nanna Ryder, Bethan Clement, Marian Thomas

Ysgrifennu adolygiad

Angen mewngofnodi neu cofrestru i rhoi adolygiad.

Mêts Maesllan 2: Cyfres Gyflawn

  • Côd cynnyrch: MM2-CG
  • ISBN: 9781783903795
  • Argaeledd: Mewn Stoc
  • £79.99

  • Ac eithrio TAW: £79.99

Cynnyrch Cysylltiedig:

Mêts Maesllan: Cyfres Gyflawn

Mêts Maesllan: Cyfres Gyflawn

Dyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i ..

£79.99 Ac eithrio TAW: £79.99

Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2

Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2

Dewch i ddilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 2, s..

£49.99 Ac eithrio TAW: £49.99

Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1

Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1

Dewch i ddilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 1, s..

£49.99 Ac eithrio TAW: £49.99