Rydyn ni wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn Cylchgrawn Cyw 'ma! Mae cwpl o opsiynau gyda ni ar gyfer beth i wneud nesaf:
- Cylchgrawn Cyw, rhifyn 9; Mehefin 2023, fel rhifyn unigol - £4.25 gyda chludiant
- Rhifynnau'r Cylchgrawn o Fedi 2023 i Fehefin 2024; 4 rhifyn gyda chludiant am ddim - £17
CYNNIG ARBENNIG
Trwy danysgrifio i Gylchgrawn Cyw a’i
ffrindiau, byddwch yn derbyn copïau newydd o'r cylchgrawn cyn gynted ag y
byddant wedi'u cyhoeddi, wedi eu cludo’n syth i'ch cartref heb unrhyw
gost cludo! Bydd y cyfnod tanysgrifio yn dechrau gyda rhifyn yr Hydref
ym mis Medi. Gallwch edrych ymlaen at dderbyn copi newydd o'r cylchgrawn
wrth i'r tymhorau newid.
Ychydig cyn i bob rhifyn newydd gael ei
gyhoeddi, bydd pris tanysgrifiad yn newid i adlewyrchu nifer y
cylchgronau sydd yn weddill yn y cylch. I weld pryd y bydd prisiau'n
newid, gweler y tabl isod!
Cyw a'i ffrindiau yw sêr y cylchgrawn
lliwgar hwn. Mae ei 48 tudalen yn llawn dop o weithgareddau hwyl sy'n
addas ar gyfer plant ifanc hyd at chwech oed. Ochr yn ochr â’r
cylchgrawn, bydd gwefan arbennig yn
cynnig cyfieithu o’r holl gynnwys, gan roi cyfle i bobl nad ydynt yn
siarad Cymraeg glywed y cynnwys yn cael ei ddarllen yn Gymraeg.
O fis Medi, bydd cynnwys ychwanegol ar gael ar y wefan gyda phob math o weithgareddau hwyliog i gyd-fynd â'r cylchgrawn!
Ar
ôl i'r rhifyn olaf yn y cylch tanysgrifio gael ei gyhoeddi, byddwn yn
anfon e-bost atoch i'ch atgoffa bod cylch y flwyddyn nesaf ar gael.
Dyddiadau
Torri i Ffwrdd y Tanysgrifiad
O'r Dyddiad Yma Ymlaen | Nifer o Rifynnau Byddech Derbyn | Pris |
01/08/2022* | 4 | ₤17.00 |
01/12/2022 | 3 | ₤12.75 |
01/03/2023 | 2 | ₤8.50 |
01/06/2023 | 1 | ₤4.25 |
*Bydd rhifyn cyntaf y flwyddyn yma, Medi 2022, yn cael ei dosbarthu yn dechrau'r wythnos cyntaf o Fedi 2022.
Gwybodaeth | |
Oedran addas | Cyfnod sylfaen, 2-5 |
Awdur | Llio Dyfri Jones, Kiri Thomas, Catrin Evans-Thomas, Rhian Davies, Meleri Jones, a Maureen Williams. Storïau gan Anni Llŷn |
Tudalennau | 48 |
Cylchgrawn Cyw a'i ffrindiau - Tanysgrifiad Medi 2022 - Mehefin 2023
- Côd cynnyrch: CYLCHCYWT2022
- Argaeledd: Allan o Stoc
-
£17.00
- Ac eithrio TAW: £17.00
Cynnyrch Cysylltiedig:
Dominos Cyw a'i ffrindiau
Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau! Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er ..
£6.99 £9.99 Ac eithrio TAW: £6.99