Tanysgrifiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf (2022-23)
Mae'r blwyddyn cyntaf Cylchgrawn Cyw yn dod i ben! Bydd rhifyn Mehefin 2022 fod y rhifyn olaf y cyfnod tanysgrifio yma ond byddwn ni'n cael tanysgrifiad newydd ar gael ar ddiwedd Mis Mehefin 2022. Byddwn yn postio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter) pan fydd e'n barod i bwrcasu!
CYNNIG ARBENNIG
Trwy danysgrifio i Gylchgrawn Cyw a’i ffrindiau, byddwch yn derbyn copïau newydd o'r cylchgrawn cyn gynted ag y byddant wedi'u cyhoeddi, wedi eu cludo’n syth i'ch cartref heb unrhyw gost cludo! Bydd y cyfnod tanysgrifio yn dechrau gyda rhifyn yr Hydref ym mis Medi. Gallwch edrych ymlaen at dderbyn copi newydd o'r cylchgrawn wrth i'r tymhorau newid.
Ychydig cyn i bob rhifyn newydd gael ei gyhoeddi, bydd pris tanysgrifiad yn newid i adlewyrchu nifer y cylchgronau sydd yn weddill yn y cylch. I weld pryd y bydd prisiau'n newid, gweler y tabl isod!
Cyw a'i ffrindiau yw sêr y cylchgrawn lliwgar hwn. Mae ei 48 tudalen yn llawn dop o weithgareddau hwyl sy'n addas ar gyfer plant ifanc hyd at chwech oed. Ochr yn ochr â’r cylchgrawn, bydd gwefan arbennig yn cynnig cyfieithu o’r holl gynnwys, gan roi cyfle i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg glywed y cynnwys yn cael ei ddarllen yn Gymraeg.
O fis Medi 2021, bydd cynnwys ychwanegol ar gael ar y wefan gyda phob math o weithgareddau hwyliog i gyd-fynd â'r cylchgrawn!
Ar ôl i'r rhifyn olaf yn y cylch tanysgrifio gael ei gyhoeddi, byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch atgoffa bod cylch y flwyddyn nesaf ar gael.
Dyddiadau
Torri i Ffwrdd y Tanysgrifiad
O'r Dyddiad Yma Ymlaen | Nifer o Rifynnau Byddech Derbyn | Pris |
01/06/2021 | 4 | ₤15.00 |
01/12/2021 | 3 | ₤11.50 |
01/03/2022 | 2 | ₤7.50 |
01/06/2022 | 1 | ₤3.99 |
Gwybodaeth | |
Oedran addas | Cyfnod sylfaen, 2-5 |
Awdur | Llio Dyfri Jones, Kiri Thomas, Catrin Evans-Thomas, Rhian Davies, Meleri Jones, a Maureen Williams. Storïau gan Anni Llŷn |
Tudalennau | 48 |
Cylchgrawn Cyw a’i ffrindiau – Tanysgrifiad Medi 2021- Mehefin 2022
- Côd cynnyrch: CYLCHCYWT2021
- Argaeledd: Allan o Stoc
-
£15.00
- Ac eithrio TAW: £15.00
Cynnyrch Cysylltiedig:
Dominos Cyw a'i ffrindiau
Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau! Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er ..
£9.99 Ac eithrio TAW: £9.99
Cylchgrawn Cyw a’i ffrindiau: Medi 2021
Cyw a’i ffrindiau yw sêr y cylchgrawn lliwgar hwn. Ac maen nhw nôl eto mewn rhifyn arbennig ar gyf..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99
Cylchgrawn Cyw a’i ffrindiau: Rhagfyr 2021
Cyw a’i ffrindiau yw sêr y cylchgrawn lliwgar hwn. Ac maen nhw nôl eto mewn rhifyn arbennig ar gyf..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99