Wyt ti'n hoffi paella? Beth yw'r cynhwysion? Oes digon o arian gan Roco a Betsan? Darllenwch eu hanes nhw mewn sgwrs wrth iddyn nhw fynd am drip i'r farchnad.
Mae Trip i'r farchnad yn rhan o gyfres Archwlio'r Amgylchedd yn y dref - Cyfres 2. Cyfres yw hon sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 2, sef 8 o straeon a cherddi gwreiddiol i blant yn y Cyfnod Sylfaen. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd.
Gwybodaeth | |
ISBN | 978-1-78390-208-8 |
Awdur | Cymraeg yn unig |
Dylunydd | Rhiannon Sparks |
Trip i'r farchnad
- Côd cynnyrch: AAYDTF
- ISBN: 9781783902088
- Argaeledd: Mewn Stoc
-
£3.99
- Ac eithrio TAW: £3.99
Cynnyrch Cysylltiedig:
Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2
Dewch i ddilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 2, s..
£49.99 Ac eithrio TAW: £49.99
Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1
Dewch i ddilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 1, s..
£49.99 Ac eithrio TAW: £49.99
Dyddiadur Betsan
Ar ei gwyliau gyda Roco yn y dref mae Betsan, ac mae hi wedi penderfynu cadw dyddiadur o'i helyntion..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99
Bwrw Glaw
Mae'n tresio bwrw trwy'r holl fro a'r glaw yn disgyn ar y to. Dyma gerdd syml sy'n rhoi dwy oc..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99
Maes Awyr
Mae maes awyr yn lle diddorol iawn ond weithiau mae'n rhaid aros am amser hir iawn cyn gallu mynd ar..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99
Darllen y Dref
Gwaith cartref Roco a Zee yw mynd ar helfa lythrennau. Ym mhob cwr o'r dre mae llythrennau yn ..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99
Gofal Gofal
Wrth i Betsan, Roco a Zee eu hatgoffa eu hunain o bwysigrwydd croesi'r ffordd yn ddiogel daw cyfle i..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99
Deffro Roco
Mae Roco yn hoff iawn o'i wely, ond nid felly Dewi! Sawl sŵn gwahanol glywch chi wrth ddarllen..
£3.99 Ac eithrio TAW: £3.99