Dyma gyfrol o 10 drama fer newydd sbon sy’n herio dysgwyr i drafod emosiynau amrywiol, i ddeall amrywiaeth ac i hyrwyddo parch at eu hunain ac at eraill. Mae’r dramâu’n cynnwys ymdriniaeth â newid, ofn, rhagfarn, egwyddorion, dibyniaeth ddigidol, digartrefedd, creadigrwydd, radicaleiddio, hunaniaeth a hunanwerth. Mae pob drama’n cynnwys cyfres o gwestiynau i hwyluso trafodaeth ac yn cynnig cyfle i holl gymuned yr ysgol ddychmygu, cydweithio a mynegi eu hunain yn hyderus a diogel trwy’r Celfyddydau Mynegiannol. Mae adnodd gweledol i gefnogi’r gyfrol hon hefyd ar gael ar HWB.
Caiff y gyfrol ei rhyddhau ar Fehefin 9fed. os ydych chi'n ychwanegu'r gyfrol hon i'ch basged cyn hynny bydd eich archeb gyfan yn cael ei dosarthu ar ôl Mehefin 9fed.
Gwybodaeth | |
Awdur | Iola Ynyr, Manon Steffan Ros |
Tudalennau | 115 |
Dewch i Drafod
- Côd cynnyrch: DEIDR
- ISBN: 9781783903726
- Argaeledd: Mewn Stoc
-
£12.99
- Ac eithrio TAW: £12.99