Archebu ar gyfer Diwedd y Flwyddyn Ariannol

Os ydych yn bwriadu gosod archeb gyda Peniarth yn fuan, ac eisiau derbyn anfoneb cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol, bydd angen i chi archebu cyn 15 Mawrth os gwelwch yn dda, er mwyn i'r Swyddfa Gyllid gael amser i brosesu pob anfoneb.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.


  • Gwella'r Gair

Cyfrol o ymarferion iaith ar gyfer dysgwyr 7 - 11 oed ydy Gwella'r Gair.  Gosodir pwyslais ar gywirdeb iaith trwy gyflwyno cystrawen, atalnodi, treigladau a mwy.  Bwriad hyn yw arwain at ysgrifennu cywir.  Dyma gyfrol unigryw a defnyddiol wedi'i pharatoi'n arbennig ar gyfer y sector cynradd.


Mae gweithgareddau digidol i gyd-fynd â'r gyfrol ar gael ar Hwb ynghyd ag atebion i'r ymarferion sydd i'w gweld yn y llyfr hwn.

Gwybodaeth
ISBN 978-1-78390-145-6
Awdur Bethan Clement, Non ap Emlyn
Ar gael yn Cymraeg yn unig
Dylunydd William Snoad

Ysgrifennu adolygiad

Angen mewngofnodi neu cofrestru i rhoi adolygiad.

Gwella'r Gair

  • Côd cynnyrch: GG_GG
  • ISBN: 9781783901456
  • Argaeledd: Mewn Stoc
  • £9.99

  • Ac eithrio TAW: £9.99