*Fersiwn dwyieithog*
Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw
sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn.
Prif nod y llyfr yw datblygu medrau
llafar plant o oedran ifanc iawn, trwy gynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu geirfa
newydd gan ymestyn yr eirfa honno wrth drafod y lluniau a'r sefyllfaoedd a
ddarlunir. Cynlluniwyd y golygfeydd amrywiol gan gadw mewn cof nodweddion
Deilliant 2 ar draws pedwar Maes Dysgu Proffil y Cyfnod Sylfaen.
Ar gyfer pob golygfa ceir;
- braslun o
brif nodweddion yr olygfa benodol honno
- set o
gwestiynau caeedig a phenagored i ysgogi trafodaeth
- rhestr o
eirfa benodol ar gyfer yr olygfa honno
- ystod o
syniadau am weithgareddau
- cyfle i
ddatblygu ymhellach nifer helaeth o sgiliau ymarferol, corfforol,
annibynnol, creadigol, personol, ieithyddol a mathemategol y plentyn
- tabl sy'n
nodi union berthynas y gweithgareddau â Phroffil y Cyfnod Sylfaen
Cynnyrch Cysylltiedig:
Beth Welwch Chi? 2 | What Can You See 2
*Fersiwn dwyieithog*Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn...
£14.99 Ac eithrio TAW: £14.99