Cynnwys:
- Llyfr yr Athrawon;
- Llyfr tywys y dysgwyr
- Llyfr Stori
- Cardiau Llun
Nod y pecyn:
Nod yr adnoddau perthynol yn y pecyn hanes hwn yw helpu athrawon i fagu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr CA2 o fywyd bob dydd yn y Gymru ganoloesol. Maen nhw'n gwneud hyn drwy hoelio sylw ar enwogion y cyfnod.
Gan ganolbwyntio'n benodol ar Y Dywysoges Gwenllian, Y Dywysoges Nest, Gerallt Gymro, Llywelyn Fawr, Llywelyn ap Gruffudd, Owain Glyndŵr, dylai’r adnoddau helpu’r ysgolion i fynd i’r afael â’r mathau o sgiliau a syniadau hanes y cyfeirir atyn nhw yn Hanes yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru a’r argymhellion a nodir yn Adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm. Yn benodol, mae’r adnoddau’n canolbwyntio ar hybu:
- dealltwriaeth dysgwyr o enwogion fel Gwenllian a Llywelyn Fawr;
- sgiliau hanesyddol dysgwyr sef ymwybyddiaeth gronolegol, dehongli hanes, ymholi hanesyddol a chyfathrebu a threfnu;
- sgiliau dysgwyr mewn llythrennedd, rhifedd, meddwl yn feirniadol a medrau digidol;
- gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o’r Cwricwlwm Cymreig ac Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, gan gynnwys dinasyddiaeth a llesiant; a
- chy eoedd ynglŷn ag asesu ar gyfer dysgu, drwy gynnig gweithgareddau hanes perthnasol, ymestynnol sy’n llawn ysgogiad.
Gwybodaeth | |
ISBN | 9781783900985 |
Awdur | Sioned V Hughes Russell Grigg |
Ar gael yn | Cymraeg a Saesneg |
Dylunydd | Rhiannon Sparks |
Travelling back to the Middle Ages Pack: Famous Personalities in Wales
- Côd cynnyrch: MAP
- ISBN: 9781783900985
- Argaeledd: Mewn Stoc
-
£25.00
- Ac eithrio TAW: £25.00
Cynnyrch Cysylltiedig:
Travelling back to the Middle Ages Pack: Castles in Wales
CynnwysLlyfr yr Athrawon;Llyfr tywys y dysgwyrLlyfr StoriCardiau LlunNod:Gan edrych yn benodol ar dd..
£25.00 Ac eithrio TAW: £25.00