Cyfrifir y costau cludiant yn ôl pwysau terfynol yr eitemau yn eich basged siopa. Gweler manylion am gostau cludiant yn ein Polisi Dosbarthu a Dychwelyd.
Ein nod yw prosesu pob archeb a'i hanfon atoch o fewn 10 diwrnod. Ceir rhagor o fanylion yn ein Polisi dosbarthu a dychwelyd.
Ydy! Pan gyrhaeddwch y man talu gallwch gofrestru/creu cyfrif gyda ni, (os ydych eisoes wedi cofrestru teipiwch eich manylion mewngofnodi i fynd ymlaen), wedyn parhau gyda'ch archeb. Wrth ddewis y dull talu, dewiswch 'Siec / cyfarwyddiadau Archeb Arian / Archeb Swyddogol', (bydd angen i chi ddarllen y telerau ac amodau a chytuno iddynt). Byddwch yn derbyn e-bost i gydnabod eich archeb. Ar ôl prosesu’r archeb byddwn yn anfon anfoneb swyddogol atoch.
Oes. Rydym yn hapus i drefnu bod cwsmeriaid yn gallu casglu’r archeb o brif dderbynfa Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerffyrddin. Gofynnir i gwsmeriaid sy’n dymuno casglu unrhyw archeb gysylltu a swyddfa’r Ganolfan ar post@peniarth.cymru er mwyn gwneud trefniadau.
Ar hyn o bryd mae mwyafrif cynnyrch y Ganolfan yn cael eu harddangos a’u gwerthu ym mhrif siop Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin. Mae’r siop wedi ei lleoli yn y Cwad yn yr Hen Goleg, a’r oriau agor yw 9:00yb – 5:00yp, Llun i Gwener. Mae’r Ganolfan hefyd yn gallu cynnig arddangosfa o’n hadnoddau gydag aelod o staff ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Os hoffech i ni drefnu arddangosfa ar eich cyfer, cysylltwch â swyddfa’r Ganolfan.
Mae’r Ganolfan yn caniatáu i sefydliadau addysg i dreialu rhai o adnoddau a chyfresi llyfrau am gyfnod o 30 diwrnod. Ar ôl i’r cyfnod treialu ddod i ben, bydd gan gwsmeriaid yr opsiwn naill ai i brynu’r eitem neu ei ddychwelyd yn ei gyflwr gwreiddiol. Mae labeli dychwelyd ar gael ar gais. Bydd costau cludiant ynghlwm wrth ddychwelyd cynnyrch.
Os na fydd eitemau treialu yn cael eu dychwelyd at y Ganolfan yn dilyn y cyfnod treialu, byddwn yn cymryd yn ganiataol fod y cwsmer yn dymuno cadw’r eitemau a byddwn yn gwneud trefniadau i anfonebu’r cwsmer.
Noder fod y cynllun treialu hwn ond ar gael i sefydliadau addysgol yn unig. Gofynnir i gwsmeriaid sy’n dymuno treialu unrhyw adnodd gysylltu â swyddfa’r Ganolfan yn y lle cyntaf.
Ydyn. Lle bo’n bosibl, nod Canolfan Peniarth yw bod mor ecogyfeillgar â phosibl. Rydym yn ailgylchu’n blychau cardfwrdd, yn defnyddio papur a ardystiwyd gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) yn ein cynnyrch argraffedig ac yn ceisio defnyddio argraffwyr a chyflenwyr lleol lle bo'n bosibl.
Rydym yn hyderus y byddwch yn fodlon iawn gyda chynnyrch y Ganolfan. Fodd bynnag, os oes angen dychwelyd eich eitemau atom, dilynwch y canllawiau â nodir o fewm ein Polisi Dosbarthu a Dychwelyd.