Polisi Dosbarthu a Dychwelyd
Dosbarthu o fewn y Deyrnas Unedig
Mae archebion a wneir o siop ar-lein Peniarth yn cael eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith. Rydyn ni'n anfon archebion ar ddyddiau Mercher, trwy Post Brenhinol (Dosbarth Cyntaf) a Parcelforce 24H - yn seiliedig ar bwysau. Rydym yn anelu at ddosbarthu archebion o fewn 5 diwrnod gwaith, ond fe all archebion gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i gyrraedd cwsmer o’r dyddiad a wneir yr archeb. Os bydd cynnyrch allan o stoc gallai hyn gymryd yn hirach.
Costau cludiant
Mae cost cludiant yn cynnwys costau pecynnu, ac mae’r tabl isod yn dangos
sut y cyfrifir cost y cludiant. Mae TAW
yn ychwanegol i’r prisiau a nodir.
Rhif |
Categori |
Pwysau/Maint |
Pris |
0 Post
Brenhinol |
Ysgafn iawn (e.e. Llythyr maint mawr Post
Brenhinol) |
< 500g Mesuriadau bach |
£2.00 |
1 Post Brenhinol |
Bach / Ysgafn |
500g - 1000g Mesuriadau maint bach i ganolig |
£3.50 |
2 Post
Brenhinol |
Canolig |
1000g - 2000g Mesuriadau canoli i mawr |
£5.50 |
3 Parcelforce |
Mawr / Trwm |
> 2000g Mesuriadau mawr |
£9.75 per 10Cg |
Dosbarthu’n rhyngwladol
Os yw cyfeiriad dosbarthu cwsmer yn gyfeiriad sydd y tu allan i’r
Deyrnas Unedig, codir tâl ychwanegol i’r tâl a fydd wedi ei nodi ar anfoneb wreiddiol
y cwsmer. Bydd y Ganolfan yn cysylltu
â’r cwsmer i gadarnhau’r gost. Bydd gan
y cwsmer yr hawl i ganslo archeb, a derbyn ad-daliad llawn os nad yw’n hapus gyda’r costau ychwanegol
hyn.
Polisi dychwelyd
Mae gan gwsmeriaid yr hawl i ganslo archeb neu ddychwelyd eitem at y Ganolfan o fewn 14 diwrnod o dderbyn yr eitem. Byddwn yn prosesu ad-daliad llawn (ac eithrio costau cludiant sydd eisoes wedi eu talu gan y Ganolfan) i’r cwsmer o fewn 14 diwrnod i ni dderbyn yr eitem ddychwelyd a bwrw bod yr eitem wedi ei ddychwelyd yn ei gyflwr gwreiddiol.
Cyn dychwelyd eitem, bydd angen i gwsmeriaid sydd eisoes â chyfrif gyda’r Ganolfan gwblhau ffurflen Dychwelyd Cynnyrch ar-lein, er mwyn gwneud cais am rif dychwelyd.
Er mwyn osgoi unrhryw broblemau a allai godi wrth ddychwelyd eitem, gofynnir i gwsmeriaid gysylltu â’r Ganolfan er mwyn trefnu cludiant i’r eitem drwy wasanaeth olrhain a chadarnhad dosbarthu’r Post Brenhinol . Ni fydd modd i’r Ganolfan drefnu ad-daliad i’r cwsmer os na fyddwn i) yn derbyn yr eitem ddychwelyd, neu ii) yn derbyn prawf fod y cwsmer wedi ceisio dychwelyd eitem at y Ganolfan drwy wasanaeth olrhain a chadarnhad dosbarthu’r Post Brenhinol.
Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Treialu Cynnyrch
Mae’r Ganolfan yn caniatáu i sefydliadau addysg i dreialu rhai o adnoddau a chyfresi llyfrau am gyfnod o 30 diwrnod. Ar ôl i’r cyfnod treialu ddod i ben, bydd gan gwsmeriaid yr opsiwn naill ai i brynu’r eitem neu ei ddychwelyd yn ei gyflwr gwreiddiol. Mae labeli dychwelyd ar gael ar gais. Bydd costau cludiant ynghlwm wrth ddychwelyd cynnyrch.
Os na fydd eitemau treialu yn cael eu dychwelyd at y Ganolfan yn dilyn y cyfnod treialu, byddwn yn cymryd yn ganiataol fod y cwsmer yn dymuno cadw’r eitemau a byddwn yn gwneud trefniadau i anfonebu’r cwsmer.
Noder fod y cynllun treialu hwn ond ar gael i sefydliadau addysgol yn
unig. Gofynnir i gwsmeriaid sy’n dymuno
treialu unrhyw adnodd gysylltu â swyddfa’r Ganolfan yn y lle cyntaf.