Amdanom Ni
Canolfan Peniarth yw canolfan gyhoeddi Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Rydym yn creu a chyhoeddi adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Mae casgliad helaeth o gynnyrch gennym gan gynnwys amryw o lyfrau darllen, cryno ddisgiau, pecynnau addysg ar gyfer y dosbarth, adnoddau cymorth iaith, gwerslyfrau addysg uwch, yn ogystal â gwefannau ac adnoddau rhyngweithiol blaengar.
Hanes
Sefydlwyd y ganolfan yn 2008 gyda'r nod o fod yn un o brif ganolfannau cynhyrchu deunyddiau ystafell ddosbarth Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Er hyn, mae ein gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i 1822 ac 1848 pan grëwyd sefydliadau gwreiddiol y Brifysgol.
Mae gan y sefydliad hanes hir a llwyddiannus fel un o brif ganolfannau hyfforddi athrawon yng Nghymru. Wrth reswm, mae profiad heb ei ail gennym o ran adnoddau dysgu ac addysgu.
Mae gennym draws doriad eang o ddeunydd ar gyfer y sector cynradd ac uwchradd yn ogystal â chynnyrch arall ar gyfer y sector addysg uwch a dysgu gydol oes.
Mae ein tîm o awduron arbenigol ynghyd â'n staff canolog o arlunwyr, dylunwyr a thechnegwyr yn creu'r asiad perffaith ar gyfer adnoddau addysgol sydd o'r radd flaenaf yn nhermau safon academaidd yn ogystal ag adnoddau lliwgar, bywiog ac unigryw sydd yn hawdd i'w defnyddio.
Yr ydym wedi datblygu i fod yn un o brif gyhoeddwyr y sector cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac yn sgil ein profiad sydd heb ei ail o fewn y maes addysg a hyfforddiant y mae enw Canolfan Peniarth yn prysur ddatblygu fel y marc safon awdurdodol o fewn adnoddau addysg yng Nghymru a thu hwnt.
Yn sgil ein perthynas â Dyslecsia Cymru rydym yn ymdrechu'n barhaus i greu ein holl adnoddau i safon sy'n ystyried anghenion arbennig dysgwyr yng Nghymru.
Mae ein perthnasau â chyrff eraill hefyd yn arwydd o'n hymgais barhaol i gydweithio gyda sefydliadau mwyaf blaengar y sector ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Gwasanaethau
Mae'r casgliad helaeth o gynnyrch sydd gennym yn brawf o'n doniau mewn nifer o feysydd. Yn ogystal â'n catalog eang, cynigwn nifer o wasanaethau gan gynnwys gwasanaeth arlunio, dylunio a gwefannau gwreiddiol ac unigryw. Os am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwasanaethau cysylltwch â ni. Rydym yn chwilio am bobl greadigol i gydweithio gyda ni ar brosiectau’r dyfodol.